Gofod3
Gofod3

Ein canllaw i ofalu am eich lles pan fyddwch chi yn gofod3.

Bydd gofod3 yn cynnig cyfleoedd di-ri i rwydweithio â chymheiriaid a gwrando ar amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai. Ond, gall mynd i ddigwyddiadau o’r fath fod yn anodd ar y corff a’r meddwl.

Dyma rai awgrymiadau da ar sut i wneud y gorau o’ch profiad heb ddioddef gormodedd o gynadledda!

1. Paratowch ar gyfer y diwrnod

Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw a cheisiwch gael noson dda o gwsg cyn gofod3. Byddem yn awgrymu gwisgo esgidiau cysurus, gallech fod ar eich traed am beth amser a dewch a haenau o ddillad gyda chi oherwydd gall y tymheredd mewn ystafelloedd amrywio a gallai hyn effeithio ar eich lles ffisegol ar ôl diwrnod hir.


2. Dewiswch yn ddoeth

Gosodwch ddisgwyliadau realistig i chi’ch hun, ni allwch wneud popeth a bod ym mhobman ar unwaith, felly rhowch flaenoriaeth i’r sesiynau, y gweithdai a’r dosbarthiadau meistr sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch nodau. Mae rhwydweithio yn rhan allweddol o’r diwrnod, ond ystyriwch roi blaenoriaeth i gysylltiadau allweddol yn hytrach na cheisio siarad â phawb. Trwy osod disgwyliadau realistig, byddwch yn lleihau’r baich a’r straen sy’n dod yn sgil ceisio gwneud pob dim. Bydd y dull hwn yn caniatáu i chi ymgysylltu’n llawn ac amsugno’r wybodaeth heb deimlo wedi eich llethu.


3. Byddwch yn drefnus

Unwaith y byddwch wedi dewis eich sesiynau, gwnewch yn siŵr eich bod yn creu cyfrif ar Luma, ein system bwcio digwyddiadau ar gyfer gofod3. Trwy greu cyfrif, gallwch weld y sesiynau rydych chi wedi cofrestru arnynt yn hawdd heb orfod chwilota am negeseuon cadarnhad ar e-bost! Yn ogystal â chadw lle ar sesiynau unigol, sicrhewch hefyd eich bod yn cofrestru ar gyfer mynediad cyffredinol oherwydd bydd hwn yn caniatáu mynediad i’r lleoliad a’r farchnad.


4. Byddwch yn y foment

Er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich amser yn gofod3, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi amser i chi’ch hun ymlacio a chael ail wynt. Os byddwch chi’n dechrau teimlo wedi eich llethu, chwiliwch gornel tawel, anadlwch i mewn ac allan yn ddwfn, a chliriwch eich meddwl. Mae gennym ystafell dawel hefyd ar lefel 3. Bydd cymryd seibiannau bwriadol yn caniatáu i chi sadio eich hun a dychwelyd i’r digwyddiad gyda ffocws ac egni newydd. Cariwch botel ddŵr gyda chi i gael llymaid drwy gydol y dydd er mwyn trechu dadhydradu, a all arwain at flinder a phennau tost.


5. Stopiwch a chymerwch amser i chi'ch hun

Rydym wedi cynnwys amser cinio yn yr amserlen i annog cyfranogwyr i gymryd seibiant go iawn a gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo amser i fwyta rhywbeth. Ceisiwch osgoi edrych ar yr hysbysiadau hynny yn ystod yr egwyl hon ac os gallwch chi fynd allan am ychydig o awyr iach, gwell fyth! Bydd yr amser hwn yn eich helpu i brosesu gwybodaeth a chlirio eich meddwl yn barod am unrhyw sesiynau rydych wedi’u bwcio ar gyfer y prynhawn.


6. Gwnewch amser i fyfyrio

Ar ddiwedd gofod3, treuliwch ennyd yn dod yn ymwybodol o’r hyn rydych chi’n ei feddwl ac yn ei deimlo o’r profiad, gan fyfyrio ar yr uchafbwyntiau a’r gwersi a ddysgwyd. Bydd y myfyrio bwriadol hwn yn caniatáu i chi ystyried sut gellir cymhwyso’r wybodaeth a’r profiadau a gafwyd yn ystod y diwrnod i’ch bywyd gwaith neu fywyd personol wrth fynd ymlaen a bydd yn helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn cael effaith hirdymor ar eich lles meddyliol.


7. Os bydd angen help arnoch

Bydd staff CGGC yno i’ch helpu yn ystod y digwyddiad. Os byddwch yn teimlo’n anhwylus neu angen cymorth, ewch at unrhyw aelod o staff CGGC sy’n gwisgo crysau-t gofod3 coch a laniardiau. Gallan nhw hefyd eich cyfeirio at wybodaeth am hygyrchedd a gorsafoedd lluniaeth. Bydd pwyntiau gwybodaeth ar gael ar bob llawr ar ben y grisiau wrth y lifftiau.

Rydym am i chi adael gofod3 yn teimlo wedi eich ysbrydoli a’ch adnewyddu, nid wedi blino’n lân. Defnyddiwch yr awgrymiadau hyn i’ch helpu i reoli eich egni a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael, a chofiwch y bydd tîm CGGC bob amser wrth law i’ch cynorthwyo. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno am ddigwyddiad cynhyrchiol a phositif!

Gofod3
^
cyWelsh