Achosion o dor diogelwch data: Ymdrin ag achosion o dor diogelwch data yn y Sector Elusennau
Mehefin 17 @ 2:30 pm - 3:20 pm
Gall achosion o dor diogelwch data ddigwydd i fudiadau o bob maint, gan gynnwys elusennau. Yn y sesiwn hon, bydd yr ICO yn edrych ar y mathau mwyaf cyffredin o dor diogelwch data a welir yn y sector elusennau, y camgymeriadau sy’n aml yn gwneud pethau’n waeth a chamau ymarferol y gallwch eu cymryd i atal ac ymateb i achosion yn effeithiol. Byddant hefyd yn trafod pryd mae angen uwchgyfeirio problemau a pham y gall “cuddio’ch pen yn y tywod” arwain at ganlyniadau mwy difrifol. Gobeithir y bydd mynychwyr yn gadael gyda dealltwriaeth fwy eglur o sut i adnabod, rheoli a dysgu o achosion o dor diogelwch data.