Beth yw’r prif heriau llwyddo neu fethu sy’n wynebu’r sector gwirfoddol? Pa argraff sydd gan bobl o’r sector ac a yw’r argraff honno’n deg? Beth allem ni, neu dylem ni, ei wneud yng Nghymru i fynd i’r afael â’n heriau, newid argraff pobl a chynnig mwy o werth i ddefnyddwyr gwasanaethau, rhoddwyr a chyllidwyr?
Dyma’r cwestiynau y bydd ein panel arbenigwyr yn eu trafod wrth edrych ar themâu fel yr argyfwng o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, meithrin gweithlu iach, amrywiol a gwydn ac adeiladu sector sy’n addas i’r dyfodol.
Bydd yn cynnwys:
- Laura Hamilton, Ymgynghorydd Cynnwys a Rheolaeth Gwirfoddoli
- Ewan Hilton, Prif Weithredwr, Platfform
- Nicki Needle, Rheolwr Gwasanaethau Integredig Llesiant/Arweinydd Rhwydweithiau Lles Integredig, Cyngor Sir Fynwy
- Malcolm John, Sefydlwr, Action for Trustee Radial Diversity
- Rachel Marshall, Rheolwr Cymru, Lloyds Bank Foundation
- Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr, LATCH Elusen Canser Plant Cymru
Bydd yn cael ei gadeirio gan:
- Betsan Powys, Newyddiadurwr
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
theatr gofod3
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.