Gofod3
Gofod3

Pam mae angen i chi adeiladu cerflun data

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Data Cymru

Cyflwynir drwy gyfrwng y a Gymraeg

Fel rhan o raglen DataBasicCymru, bydd y sesiwn ddiddorol hon yn helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder o ran dadansoddi data ac adrodd straeon. Nid cwrs Excel mo hwn, ac nid oes angen profiad blaenorol o ddata! Os ydych chi eisiau dod yn fwy hyderus wrth drin a defnyddio data, ymunwch â Róisín Roberts ac Ieuan Wade o Data Cymru a fydd yn eich cefnogi ar daith ddata hwyliog a diddorol.

Mae Data Cymru yn cael ei gyllido a’i berchnogi’n llwyr gan y llywodraeth leol yng Nghymru ac mae’n cynnig ystod o gymorth arbenigol sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol.

Mae’r sesiynau yma wedi’i drefnu fel rhan o Brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo-Cymru.

https://www.data.cymru/cym/databasiccymru

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
Data Cymru
Dyddiad
Mer 5 Meh 2024, 11:00am
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh