Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig a menter gymdeithasol sy’n gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn cael eu hysbysu, eu cynnwys, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed. Mae ein gwaith yn seiliedig ar fwy nag 20 mlynedd o gyflawni prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol. Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon drwy hyfforddiant a sesiynau ymgynghori, gan feithrin partneriaethau hirdymor er budd pobl a mudiadau.
Digwyddiadau gan y mudiad hwn
Dylunio gwasanaethau digidol sy’n gweithio
Mer 5 Meh 2024, 2:30pm
Digidol
Dysgwch sut i wella’ch sgiliau digidol ac adeiladu gwasanaethau gyda chymunedau. Bydd ProMo Cymru yn rhannu sut maen nhw’n cyfuno gwaith ieuenctid a chymunedol gydag egwyddorion dylunio gwasanaethau i greu gwasanaethau a phrofiadau digidol sy’n gweithio i bobl. Yn ystod y sesiwn ryngweithiol hon, bydd ProMo yn dod â’r broses dylunio gwasanaethau pedwar cam yn fyw, gan rannu enghreifftiau, awgrymiadau ac adnoddau perthnasol.
Cyflwynir y sesiwn hon gan Newid: Digidol ar gyfer y Trydydd Sector, rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag CGGC, ProMo-Cymru a Cwmpas, gyda chefnogaeth Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
https://www.newid.cymru/cy/