Digwyddiadau Cysylltiedig

Chwilio’r Da – Gweithdy dysgu am sgyrsiau comisiynu
Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm
Llywodraethu
Gan adeiladu ar drafodaeth banel gofod3 yn 2024 o’r un enw, mae’r gweithdy hwn yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o brosiect dysgu gweithredol chwe mis sy’n archwilio beth mae ‘Chwilio’r Da’ yn ei olygu mewn arferion comisiynu ledled Cymru.
Dechreuwyd y prosiect gan Fforwm Elusennau Bach Cymru, a’i ddatblygu mewn partneriaeth â Sefydliad Banc Lloyds, Cwmpas, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, elusennau bach, a mentrau cymdeithasol ledled Cymru. Gyda’i gilydd, datblygodd partneriaid y prosiect sgyrsiau comisiynu lleol a rhanbarthol drwy gydol Gwanwyn 2025.
Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys cyfraniadau gan y rhai sy’n ymwneud â’r prosiect, gan rannu gwybodaeth a chanlyniadau o’u profiadau. Bydd y mynychwyr yn cael eu gwahodd i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd ac ystyried sut gall y sector gwirfoddol adeiladu ar y gwaith hwn i eirioli dros arferion comisiynu gwell ledled Cymru.

O Leoliadau Tymor Byr i Wirfoddolwyr Gydol Oes: Gwneud i’r Cyflwyniad Cychwynnol Gyfrif
Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm
Gwirfoddoli
Sut gallwn ni droi profiad gwirfoddoli untro yn ddechrau taith gydol oes?
Mae’r sesiwn ddefnyddiol hon yn archwilio sut mae pobl yn aml yn dechrau gwirfoddoli drwy brofiadau tymor byr – fel Bagloriaeth Cymru, Gwobr Dug Caeredin, gwirfoddoli gyda chymorth cyflogwr, neu ddigwyddiadau cenedlaethol fel The Big Help Out.
Manteisiwch ar y cyfle i ystyried sut gall y profiadau cynnar hyn fod yn sbardunau pwerus ar gyfer ymrwymiadau hirdymor pan fydd yr amodau cywir yn eu lle.

Pa rôl allai/ddylai prifysgolion, fel y Brifysgol Agored yng Nghymru, ei chwarae wrth gefnogi’r sector gwirfoddol yng Nghymru?
Mer 2 Gorff 2025, 11:00am
Gwirfoddoli
Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cefnogi gwirfoddolwyr drwy eu rhaglen hyfforddi ‘Elwa drwy Wirfoddoli’, ond beth arall allen nhw/ddylen nhw fod yn ei wneud yn y sector? Maen nhw’n awyddus i glywed eich barn.
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cynnwys y canlynol:
Hyfforddiant eiriolaeth Hyrwyddwyr OpenLearn ar gyfer y sector gwirfoddol
Rhaglen Elwa drwy Wirfoddoli, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn
Partneriaethau eraill yn y sector a sut mae’r Brifysgol Agored yn cefnogi prosesau DPP staff
Archwilio OpenLearn, sef gwefan y Brifysgol ar gyfer dychwelyd i ddysgu, sy’n cynnwys 1,000 o gyrsiau am ddim a 10,000 o raglenni rhyngweithiol, papurau, gemau ac adnoddau dychwelyd i ddysgu eraill, sydd i gyd am ddim.

Cyfleoedd ariannu a chyngor doeth ar gyfer paratoi ceisiadau
Mer 2 Gorff 2025, 12:30pm
Cyllido
Ymunwch â ni mewn sesiwn lawn o wybodaeth lle byddwn yn archwilio pa gyfleoedd ariannu sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar gyfer eich cymuned.
Bydd y sesiwn hon yn cynnig dosbarth meistr, gyda chyngor gwerthfawr, os neu pan fyddwch yn gwneud cais i’w rhaglen flaenllaw Pawb a’i Le.
Byddwch yn dysgu am flaenoriaethau presennol y rhaglen, gan gynnwys y gofyniad newydd i ymgeiswyr egluro sut y byddan nhw’n rheoli eu heffaith amgylcheddol.