Digwyddiadau Cysylltiedig

Gwirfoddoli fel ffordd o fyw i bawb?
Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm
Gwirfoddoli
Pa mor gynhwysol yw ein harferion gwirfoddoli, a ble allwn ni wneud yn well?
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio arferion da o ran gwirfoddoli cynhwysol, gan edrych ar faes ansawdd cynhwysiant Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV).
Bydd awgrymiadau da yn cael eu rhannu – er enghraifft dulliau cyflym a rhai mwy hirdymor – i sicrhau bod gwirfoddoli’n hygyrch i bawb.
Ymunwch â’r sesiwn i fyfyrio, rhannu, a gweithredu er mwyn gwneud gwirfoddoli yn wirioneddol gynhwysol.

Atal problemau iechyd meddwl – Pŵer cymunedau
Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm
Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Mae’r atebion i’r argyfwng iechyd meddwl cynyddol y tu allan i barth ‘iechyd’. Nid ein genynnau sy’n pennu ein Hiechyd Meddwl ond yr amgylchiadau a’r amodau rydyn ni’n cael ein geni, yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddyn nhw.
Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio pa ffactorau sy’n hybu iechyd meddwl da, a sut i ymgorffori ataliaeth mewn cymunedau.

Mae dyfodol trafnidiaeth Cymru yn perthyn i ni gyd – gosod y gymuned wrth wraidd datblygu trafnidiaeth
Mer 2 Gorff 2025, 11:00am
Polisi a gwleidyddiaeth
Mae trafnidiaeth yn sail i’n bywydau.
Os caiff pethau eu gwneud yn iawn, mae’n agor cyfleoedd addysg a chyflogaeth, gan ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ein cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a grwpiau cymunedol, mynd i siopa neu fynd i apwyntiadau ysbyty.
Gyda chymaint o bobl a rhannau o Gymru wedi’u heithrio o’r rhwydwaith trafnidiaeth prif ffrwd ar hyn o bryd, bydd y sesiwn hon yn ystyried sut mae’r Bil Bysiau newydd yn cynnig cyfle i feddwl y tu hwnt i fersiwn unfath o’r hyn sydd ganddon ni eisoes i ddylunio system drafnidiaeth sy’n gweithio i bob un ohonon ni.

Gwneud lle i siarad am iechyd emosiynol
Mer 2 Gorff 2025, 12:30pm
Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Sgwrs strwythuredig gan yr elusen Mentro i Freuddwydio fydd hon, dan arweiniad Barbara Chidgey, sylfaenydd a Chadeirydd yr elusen Daring to Dream. Mae Daring to Dream yn cefnogi iechyd emosiynol (nid iechyd meddwl) yr 1.2 miliwn o oedolion yng Nghymru sy’n byw gyda salwch. Mae ymchwil yn cadarnhau bod siarad am ein teimladau yn cynorthwyo gwellhad cyflymach o gyflyrau acíwt, yn cefnogi byw yn well gyda salwch cronig, ac yn lleihau’r risg o ddatblygu salwch meddwl ar ben y salwch corfforol hefyd.
Yn ôl Barbara Chidgey (sylfaenydd Mentro i Freuddwydio) mae canolbwyntio ar iechyd emosiynol yn newid byd i’r rheini ohonon ni sy’n byw gyda salwch, ein teuluoedd a’n gofalwyr ac i GIG Cymru.