Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Chwilio’r da. Beth yw’r tendr mwyaf manteisiol mewn gwirionedd?

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Cyllido
Wedi’i harwain gan Fforwm Elusennau Bach Cymru a chyda phanelwyr traws-sector o bob rhan o Gymru, bydd y drafodaeth banel hon yn ymdrin ag arferion da mewn comisiynu. Yng nghyd-destun diwygiadau polisi mawr, dyma gyfle i wrando ar safbwyntiau amrywiol, datblygu’r ddeialog a dyfnhau’r ddealltwriaeth o bopeth sy’n ymwneud â chomisiynu, caffael a gwerth cymdeithasol yng Nghymru. https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/ (Saesneg yn unig)

Gwerth a gwerthoedd y sector gwirfoddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mer 5 Meh 2024, 12:30pm

Iechyd a gofal cymdeithasol
Mae hon yn sesiwn a gyflwynir gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC. Bydd yr awdur, Richard Newton, yn crynhoi ei adroddiad Comisiwn Bevan: ‘Gwerth a gwerthoedd y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan drafodaeth banel ar ei brif ganfyddiadau. Bydd hyn yn cynnwys rôl hanfodol y sector gwirfoddol mewn gwella, ehangu ac ategu’r ddarpariaeth statudol o iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig ei werthoedd a’i gryfderau, gan gynnwys budd cyhoeddus a gwerth cymdeithasol. https://wcva.cymru/cy/projects/prosiect-iechyd-a-gofal-cggc/

Ehangu eich rhwydweithiau: pecyn cymorth ymarferol

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Dyma sesiwn gan brosiect ‘Catalydd Cymru – Ehangu Gorwelion’ CGGC. Mae ehangu gorwelion mudiadau’n hanfodol os ydynt eisiau ehangu eu rhwydweithiau a’u cyrhaeddiad er mwyn bod yn fwy cynhwysol a hygyrch i gymunedau amrywiol. Yn ei dro, mae hyn hefyd yn cyfrannu at fagu gwydnwch gwell. Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyfle i glywed am y gwersi ar gynhwysiant a ddysgwyd gan fudiadau treftadaeth a gymerodd ran ym mhrosiect Catalydd Cymru. Bydd yn cynnwys cyflwyniad i’r pecyn cymorth ‘ehangu eich rhwydweithiau’ dwyieithog sydd newydd ei ddatblygu a chyfle i rannu dulliau gweithredu ymarferol y gallech eu mabwysiadu yn eich mudiad eich hun. https://wcva.cymru/cy/projects/catalydd-cymru-ehangu-gorwelion/

Cryfhau gwirfoddoli strategol yn sector chwaraeon cymunedol Cymru

Mer 5 Meh 2024, 4:00pm

Gwirfoddoli
Mae hwn yn weithdy rhyngweithiol a arweinir gan Sported, rhwydwaith mwyaf y DU o grwpiau cymunedol sy’n hybu tegwch a chydraddoldeb i bobl ifanc. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y problemau a’r datrysiadau sy’n gysylltiedig â recriwtio a chadw gwirfoddolwyr ar lefelau bwrdd a phwyllgor ar draws sector chwaraeon cymunedol Cymru. Dewch i rannu eich gwybodaeth, unrhyw arferion da rydych chi wedi’u gweld, ac i ystyried y datrysiadau arloesol a chydweithredol sydd eu hangen i gryfhau gwirfoddoli ar lefelau bwrdd a phwyllgor ar draws sector chwaraeon cymunedol Cymru. www.sported.org.uk (Saesneg yn unig)
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh