This is some information about how to get to room G7
Digwyddiadau Cysylltiedig
Defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol
Mer 5 Meh 2024, 12:30pm
Cyfathrebu
Y Gymraeg
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg (darperir cyfieithu ar y pryd).
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno canllaw newydd ar ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – pwnc sy’n cael ei godi’n gyson gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol. Pwrpas y canllaw yw cynnig arweiniad ac atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, gan gynnwys enghreifftiau go iawn a phrofiadau eraill. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y canllaw a chynyddu defnydd eich sefydliad o’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol.
https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau
Archwilio annibynnol mewn llywodraethiant elusennau – pam mae’n bwysig a sut i gymryd rhan
Mer 5 Meh 2024, 2:30pm
Llywodraethu
Edrychwch ar rôl archwilio annibynnol mewn cefnogi llywodraethiant da, beth i edrych amdano mewn archwiliad annibynnol, a pham allech ystyried hyfforddi fel archwiliwr annibynnol.
Mae’r Association of Charity Independent Examiners (ACIE) yn canolbwyntio ar godi safonau archwiliadau annibynnol. Wedi’i sefydlu ym 1999, ACIE yw’r unig gorff proffesiynol sy’n canolbwyntio ar archwilio annibynnol yn unig, sy’n rhoi ychydig o sicrwydd annibynnol bod arian elusen wedi’i gyfrifo’n briodol a bod cofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw.
www.acie.org.uk (Saesneg yn unig)
Popeth sydd angen i chi ei wybod am y Ddeddf Absenoldeb Gofalwr
Mer 5 Meh 2024, 11:00am
Gofalwyr
Daeth y Ddeddf Absenoldeb Gofalwr i rym ar 6 Ebrill 2024, sy’n golygu bod yn rhaid i bob cyflogwr fod yn barod nawr i gefnogi gofalwyr di-dâl yn eu gweithleoedd.
Ymunwch â Gofalwyr Cymru am sesiwn ddiddorol ar y darn newydd hwn o ddeddfwriaeth. Bydd yn gyfle gwych i chi ddeall y Ddeddf yn well – a bydd yn dangos cyfrifoldebau cyflogwr i gydymffurfio â’r Ddeddf a’r hawliau newydd i ofalwyr yn y gweithle.
https://www.carersuk.org/cy/wales/
Dod ynghyd i alluogi cyd-gynhyrchu yn y sector gwirfoddol
Mer 5 Meh 2024, 4:00pm
Cyd-gynhyrchu
Dewch i’r sesiwn ddiddorol hon gyda thrafodaeth bord gron a chyflenwad o adnoddau sy’n ceisio annog ac ysbrydoli cyd-gynhyrchu ar draws y sector gwirfoddol.
Waeth a ydych yn gweithio mewn corff cenedlaethol mawr neu ar brosiect lleol yn y gymuned, mae hwn yn gyfle i ddysgu ar draws sectorau am egwyddorion cyffredin cyd-gynhyrchu. Dysgwch am Brosiect Dewi, sydd wedi gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i integreiddio arferion cyd-gynhyrchiol, ac astudiaeth achos arfer gorau gan y sector gwirfoddol, sydd wedi defnyddio cyd-gynhyrchu’n llwyddiannus i greu canlyniadau positif i ddinasyddion.
https://copronet.wales/cy/