Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Diweddariad ar weithgarwch gwleidyddol a’r gyfraith elusennau

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Llywodraethu
Os yw eich elusen yn bwriadu cymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol a/neu ymgyrchu dros y misoedd nesaf, yna mae angen i chi ddeall y rheolau. Ymunwch â Geldards i drafod sut gall elusennau gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, gyda diweddariad cyffredinol ar y gyfraith elusennau i ddilyn. www.geldards.com

Creu gobaith ac iachâd: gweithio mewn ffordd a hysbysir gan drawma i fynd i’r afael ag iechyd meddwl cymunedol

Mer 5 Meh 2024, 12:30pm

Iechyd meddwl
Byddwch yn rhan o waith Platfform ar ddatblygu’r sgwrs ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol a newid system. Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu mwy am y ffordd wahanol y mae Platfform yn mynd ati i ymdrin ag iechyd meddwl, sy’n creu gobaith ac iachâd drwy gymuned ac yn ymwreiddio arferion a diwylliant perthynol a hysbysir gan drawma ar draws mudiadau yng Nghymru. Bydd Platfform yn dangos sut mae dull gweithredu perthynol yn gweithio’n ymarferol, drwy greu gofod cynnes a chroesawgar i bobl gysylltu fel bodau cyfartal, a bod yn chwilfrydig ynghylch storïau a syniadau. www.platfform.org

Ymwreiddio diwylliant a hysbysir yn berthynol gan drawma yn eich mudiad

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Iechyd meddwl
Byddwch yn rhan o waith Platfform ar ddatblygu’r sgwrs ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol a newid system. Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu mwy am y ffordd wahanol y mae Platfform yn mynd ati i ymdrin ag iechyd meddwl, sy’n creu gobaith ac iachâd drwy gymuned ac yn ymwreiddio arferion a diwylliant perthynol a hysbysir gan drawma ar draws mudiadau yng Nghymru. Bydd Platfform yn dangos sut mae dull gweithredu perthynol yn gweithio’n ymarferol, drwy greu gofod cynnes a chroesawgar i bobl gysylltu fel bodau cyfartal, a bod yn chwilfrydig ynghylch storïau a syniadau. www.platfform.org

Mae newid yn anochel ond nid yw datblygiad: pam mae arnom angen math newydd o arweinyddiaeth

Mer 5 Meh 2024, 4:00pm

Aeweinyddiaeth
A ydych chi eisiau cael eich ysbrydoli? Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i feddwl gyda gorwelion ehangach, cael sgyrsiau gwell, a chyflawni mwy o effaith. Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu gan Heads Up, y rhwydwaith newid cymdeithasol, lle byddant yn rhannu syniadau, dysgu, gwersi a storïau ynghylch arweinyddiaeth arloesol o bob math. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys arweinyddiaeth ffeministaidd, strwythurau awdurdod llorwedd, nerth diwylliannau sefydliadol a mwy. https://hannahpudner.co.uk/headsup (Saesneg yn unig)
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh