Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marchnata
Addasu eich dewisiadauMae cynnal digwyddiad yn gofod3 yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa amrywiol. Waeth a ydych chi’n gobeithio trefnu trafodaeth banel, gweithdy, grŵp ffocws, prif anerchiad neu lansio ymgyrch, dyma’r gofod i chi.
Rydym eisiau sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar gofod3 a bod y digwyddiad nid yn unig yn bodloni eich disgwyliadau, ond yn mynd y tu hwnt iddynt.
Rydym yn chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn annog ffyrdd gwahanol o weithio, yn ennyn trafodaeth ac yn ysgogi newid. Yn lle dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin, rydym yn chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn cyfrannu at wneud gofod3 y gorau y gall fod i ymwelwyr.
Codir tâl yr awr ar ofod ar gyfer digwyddiad, ond rydyn ni’n hyblyg o ran hyd digwyddiadau. Os oes angen slot hirach arnoch neu os hoffech ychwanegu opsiynau arlwyo, cysylltwch â ni ar 0300 111 0124 neu [email protected] i drafod cyn cyflwyno eich ffurflen gais.
I wneud cais am ofod ar gyfer digwyddiad yn gofod3, llenwch y cais ar-lein erbyn 3 Mawrth 2025. (Noder: ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried).
Byddwn yn eich hysbysu o ganlyniad eich cais yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 17 Mawrth 2025.Er y byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddyrannu’r ystafell fwyaf addas i’ch digwyddiad o ran maint a gosodiad, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu bodloni pob cais oherwydd y mannau cyfyngedig sydd ar gael.
Bydd pawb sydd yn bwcio gofod ar gyfer digwyddiad yn cael:
- sylw yn yr arweinlyfr digwyddiadau yn hysbysebu digwyddiad eich mudiad
- enw eich mudiad a dolen gyswllt ar wefan gofod3 a chyhoeddusrwydd cyffredinol ar gyfer eich digwyddiad
- cyfieithu ar y pryd (Cymraeg/Saesneg) os oes angen
- pecyn AV llawn, gan gynnwys gliniadur, taflunydd, sgrin a siart droi
- cymorth i osod ystafell y digwyddiad, cymorth gyda chofrestru a gyda rheoli’r rhestr gyfranogwyr ar y dydd
Ystafelloedd
- Bach – hyd at 12. Gwych ar gyfer sesiynau mwy ymarferol ac ennyn sgyrsiau. Gweithio’n dda ar gyfer grwpiau ffocws a gweithdai
- Canolig – 25-30. Gwych ar gyfer trafodaethau panel, neu ddiweddariadau polisi arbenigol
- Mawr – hyd at 50. Gwych ar gyfer trafodaethau panel
Ffioedd (a godir fesul awr)
Mae’r ffioedd ar gyfer lleoedd arddangos yn seiliedig ar faint yr ystafell. Mae capasiti’r ystafelloedd yn amrywio o fannau llai i tua 10 cynrychiolydd i ystafelloedd mwy i hyd at 50 o gynrychiolwyr.
Sector gwirfoddol
- Ystafell fach: £217 + TAW
- Ystafell ganolig: £265 + TAW
- Ystafelloedd mwy o faint: Rhwng £312 - £359 + TAW
Sector cyhoeddus
- Ystafell fach: £363 +TAW
- Ystafell ganolig: £418 + TAW
- Ystafelloedd mwy o faint: Rhwng £479 - £534 + TAW
Sector preifat
- Ystafell fach: £473 + TAW
- Ystafell ganolig: £506 + TAW
- Ystafelloedd mwy o faint: Rhwng £589 - £699 + TAW
Cysylltwch â’r tîm digwyddiadau gydag unrhyw gwestiynau: [email protected]Bwcio gofod ar gyfer eich digwyddiad
Cyfleoedd noddi
Mae gofod3 yn ddigwyddiad unigryw a fydd yn gweld ymwelwyr o’r sector gwirfoddol yn dod ynghyd i siarad am y materion sydd o bennaf bwys iddynt.
Mae hwn yn gyfle prin i chi gael eich brand wedi’i weld gan arweinwyr yn y sector gwirfoddol.