Gofod3
Gofod3

Dod ynghyd i alluogi cyd-gynhyrchu yn y sector gwirfoddol

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

RHWYDWAITH CYD-GYNHYRCHU CYMRU

Dewch i’r sesiwn ddiddorol hon gyda thrafodaeth bord gron a chyflenwad o adnoddau sy’n ceisio annog ac ysbrydoli cyd-gynhyrchu ar draws y sector gwirfoddol.

Waeth a ydych yn gweithio mewn corff cenedlaethol mawr neu ar brosiect lleol yn y gymuned, mae hwn yn gyfle i ddysgu ar draws sectorau am egwyddorion cyffredin cyd-gynhyrchu. Dysgwch am Brosiect Dewi, sydd wedi gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i integreiddio arferion cyd-gynhyrchiol, ac astudiaeth achos arfer gorau gan y sector gwirfoddol, sydd wedi defnyddio cyd-gynhyrchu’n llwyddiannus i greu canlyniadau positif i ddinasyddion.

https://copronet.wales/cy/

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
RHWYDWAITH CYD-GYNHYRCHU CYMRU
Dyddiad
Mer 5 Meh 2024, 3:00pm
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

G7

This is some information about how to get to room G7

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh