Gofod3
Gofod3

Sesiwn galw heibio: Rheoli risg ac yswiriant

Thomas Carroll

Mae Thomas Carroll yn darparu datrysiadau rheoli risg ac yswiriant cynhwysfawr ar gyfer busnesau ar draws sectorau amrywiol, gan gynnwys y sector gwirfoddol.

Yn y sesiwn galw heibio hon bydd tîm Thomas Carroll ar gael i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gennych ynghylch eich risgiau busnes. Byddant hefyd yn cynnig mewnwelediadau ymarferol ac atebion i helpu i gefnogi’r gwaith hanfodol rydych chi’n ei wneud yn y sector gwirfoddol.

I archebu eich slot amser yn y sesiwn e-bostiwch: [email protected]

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
Thomas Carroll
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh