Gofod3
Gofod3

Troi’r dudalen gyda Dr Helen Stephenson CBE: ei mewnwelediadau a’i gweledigaeth

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

CGGC

Dr Helen Stephenson CBE yw’r Prif Weithredwr sydd wedi bod gyda’r Comisiwn Elusennau hiraf. Mae Dr Stephenson, sydd wedi bod wrth y llyw am dros saith blynedd, wedi llywio drwy gymhlethdodau’r sector gwirfoddol mewn cyfnodau digyffelyb a heriol, gan gynnwys pandemig COVID-19.

Wrth iddi baratoi i drosglwyddo’r awenau yn ddiweddarach yr haf hwn, bydd Dr Stephenson yn rhannu ei mewnwelediadau, ei myfyrdodau a’i dyheadau am ddyfodol y Comisiwn a’r dirwedd elusennol ehangach. Dyma eich cyfle i glywed gan arweinydd sydd wedi gadael nod parhaol ar y sector gwirfoddol gyda’i gwasanaeth ymroddgar.

Bydd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr newydd CGGC yn ymuno â Helen am sgwrs ac i rannu myfyrdodau o’r diwrnod.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
CGGC
Arddangoswr
Dyddiad
Mer 5 Meh 2024, 3:00pm
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh