Gofod3
Gofod3

Ehangu eich rhwydweithiau: pecyn cymorth ymarferol

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

CGGC

Dyma sesiwn gan brosiect ‘Catalydd Cymru – Ehangu Gorwelion’ CGGC. Mae ehangu gorwelion mudiadau’n hanfodol os ydynt eisiau ehangu eu rhwydweithiau a’u cyrhaeddiad er mwyn bod yn fwy cynhwysol a hygyrch i gymunedau amrywiol.

Yn ei dro, mae hyn hefyd yn cyfrannu at fagu gwydnwch gwell. Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyfle i glywed am y gwersi ar gynhwysiant a ddysgwyd gan fudiadau treftadaeth a gymerodd ran ym mhrosiect Catalydd Cymru. Bydd yn cynnwys cyflwyniad i’r pecyn cymorth ‘ehangu eich rhwydweithiau’ dwyieithog sydd newydd ei ddatblygu a chyfle i rannu dulliau gweithredu ymarferol y gallech eu mabwysiadu yn eich mudiad eich hun.

https://wcva.cymru/cy/projects/catalydd-cymru-ehangu-gorwelion/

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
CGGC
Arddangoswr
Dyddiad
Mer 5 Meh 2024, 10:00am
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh