Menter gan Plant yng Nghymru yw Cymru Ifanc, ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw gwrando ar bobl ifanc a grymuso eu lleisiau. Mae ein gwaith yn seiliedig ar y syniad o ranny, hysbysu a newid polisi ac ymarfer. Drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau ledled y wlad, mae Cymru Ifanc yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol, a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ganolog i waith Cymru Ifanc, ac rydyn ni am i bobl ifanc ddeall eu hawliau! Ein nod yn Cymru Ifanc yw adlewyrchu Erthygl 12 o CCUHP – Yr hawl i bobl ifanc gael barn, ac i’w barn gael ei chlywed a’i chymryd o ddifrif.