gofod3 yw eich gofod unigryw chi. Dyma ein canllaw i wneud y mwyaf o’ch diwrnod.
Cofiwch nad cynhadledd mo gofod3…..
Nid cynhadledd ffurfiol mo gofod3, gydag amserlen gaeth i fynychu sesiynau. Mae croeso i chi ddod i gymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch yn ystod y diwrnod, ond cofiwch ei fod yn bwysig iawn eich bod yn gofalu am eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd egwylion, yn cael lluniaeth ac yn manteisio i’r eithaf ar rwydweithio â phobl eraill o bob rhan o’r sector gwirfoddol a thu hwnt.
Peidiwch ag oedi – cofrestrwch ar eich digwyddiadau cyn gynted â phosibl
Gyda 60 o ddigwyddiadau AM DDIM i ddewis ohonynt, treuliwch ychydig o amser yn edrych ar yr amserlen a phenderfynu ar ba ddigwyddiadau yr hoffech chi fynd iddynt. Gallwch ddewis cymaint ag y dymunwch, ond bydd angen i chi gofrestru'n unigol ar gyfer pob sesiwn. Cliciwch yma i bori trwy’r amserlen (yn ôl pwnc, amser a mudiad). We’re using Luma to manage session bookings this year, be sure to set up an account. Registering with Luma allows you to view and manage the sessions you’ve booked on to.
Dysgwch o’ch gilydd
Dewch i’r digwyddiadau, arhoswch i’r rhwydweithio. gofod3 yw gofod Cymru i gydweithio. Cofiwch ymweld â’r farchnad brysur a gwneud cysylltiadau â phobl eraill a allai helpu i fynd â’ch gwaith i’r lefel nesaf. Dewch â’ch heriau a’ch cyfleoedd gyda chi, ac rydych chi’n siŵr o gael eich synnu gan y pethau y bydd pobl yn ei ddweud.
Byddwch yn garedig â chi’ch hun a mwynhewch!
Gyda chymaint o ddigwyddiadau gwych i ddewis ohonynt, cofiwch ofalu amdanoch eich hun a chymryd egwylion. Er mwyn eich annog i wneud hyn, rydym wedi sicrhau y bydd adegau drwy gydol y dydd pan na fydd gennym unrhyw beth yn digwydd. Rydym hefyd wedi crynhoi rhai awgrymiadau llesiant yma.