Wedi’i harwain gan Fforwm Elusennau Bach Cymru a chyda phanelwyr traws-sector o bob rhan o Gymru, bydd y drafodaeth banel hon yn ymdrin ag arferion da mewn comisiynu. Yng nghyd-destun diwygiadau polisi mawr, dyma gyfle i wrando ar safbwyntiau amrywiol, datblygu’r ddeialog a dyfnhau’r ddealltwriaeth o bopeth sy’n ymwneud â chomisiynu, caffael a gwerth cymdeithasol yng Nghymru.
https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/ (Saesneg yn unig)
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.