Gofod3
Gofod3

Archive for Shows

Risgiau cyfredol yn y sector elusennol: Diweddariad

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G8

Llywodraethu
Rheoli risg
Bydd Bevan Buckland yn rhoi diweddariad ar risgiau cyfredol yn y sector elusennol, gan gynnig strategaethau i helpu i reoli risg yn effeithiol, a thrafod hanfodion cofrestr risg. Bydd y cyflwyniad diddorol hwn yn cloi gyda sesiwn holi-ac-ateb ryngweithiol lle gall mynychwyr ofyn am gyngor ynghylch heriau penodol maen nhw’n eu hwynebu yn eu helusen.

Arweiniwch y ffordd gyda deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol yn y Gymraeg

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G9

AI
Digidol
Ymunwch ag un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC, Pugh Computers, am sesiwn ddiddorol llawn arloesedd AI a diweddariadau cyffrous. Rhyddhewch bŵer Microsoft Copilot AI AM DDIM i symleiddio ffrydiau gwaith a gwella creadigrwydd. Dysgwch sut mae Copilot a Microsoft Teams yn cyfuno’n ddi-dor i ddarparu cyfieithiadau Cymraeg o fewn eiliadau. Grymuswch eich tîm gyda datrysiadau gweithio hybrid wedi’u teilwra, gan gynnwys technoleg ystafell gyfarfod a phecynnau gweithio gartref wedi’u hardystio gan Teams. Arferion gorau wrth ymdrin â diogelu data a llywodraethu gyda rheoliadau diogelwch a dogfennau gorau M365.

Senedd 2026: newidiadau, effaith a maniffestos

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G10

Polisi a gwleidyddiaeth
Beth mae diwygio’r Senedd yn ei olygu i’r sector gwirfoddol? Beth sydd ar ein rhestr ddymuniadau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru? Beth mae’r gwahanol bleidiau gwleidyddol yn addo ei gyflawni? Bydd y sesiwn addysgiadol hon yn crynhoi’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf, a’r hyn mae CGGC wedi’i ddysgu drwy ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol wrth iddyn nhw ddrafftio eu maniffestos a sut mae hynny’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r sector gwirfoddol. Bydd cyfle i roi adborth, gofyn cwestiynau, a dechrau datblygu eich strategaeth ddylanwadu.

Dylunio’r Dyfodol: Datblygu eich sgiliau meddwl hirdymor

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: gofod3 theatre

Gweithdy sgiliau rhyngweithiol yw hwn sy’n cael ei gynnal gan Hwb Dyfodol, menter bartneriaeth newydd i gefnogi sgiliau meddwl hirdymor yng Nghymru. Ymunwch â thîm Hwb i ddysgu am Ddylunio’r Dyfodol, techneg y gallwch ei defnyddio yn eich mudiad a’ch cymunedau. Bydd arweinwyr y sesiynau yn gwahodd pobl i ddychmygu eu hunain wedi’u cludo i’r flwyddyn 2050, ac ystyried y cwestiynau hyn: Sut bydden nhw’n gweld y byd? Beth fydden nhw am ei weld? Pa benderfyniadau fydden nhw’n dymuno i’w rhagflaenwyr eu gwneud?

O Leoliadau Tymor Byr i Wirfoddolwyr Gydol Oes: Gwneud i’r Cyflwyniad Cychwynnol Gyfrif

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G1

Gwirfoddoli
Sut gallwn ni droi profiad gwirfoddoli untro yn ddechrau taith gydol oes? Mae’r sesiwn ddefnyddiol hon yn archwilio sut mae pobl yn aml yn dechrau gwirfoddoli drwy brofiadau tymor byr – fel Bagloriaeth Cymru, Gwobr Dug Caeredin, gwirfoddoli gyda chymorth cyflogwr, neu ddigwyddiadau cenedlaethol fel The Big Help Out. Manteisiwch ar y cyfle i ystyried sut gall y profiadau cynnar hyn fod yn sbardunau pwerus ar gyfer ymrwymiadau hirdymor pan fydd yr amodau cywir yn eu lle.

Y Bil Hawliau Cyflogaeth newydd: Yr hyn y mae angen i bob elusen ei wybod

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G3

Cyfraith cyflogaeth
Llywodraethu
Mae Bil Hawliau Cyflogaeth newydd llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi’n mynd drwy senedd San Steffan. Ei nod yw moderneiddio cyfraith cyflogaeth, gan gryfhau amddiffyniadau gweithwyr a hyrwyddo tegwch yn y gweithle. Mae’r newidiadau allweddol yn cynnwys gwneud hawliadau diswyddo annheg yn hawl o’r diwrnod cyntaf un, gan sicrhau triniaeth fwy teg ar gyfer gweithwyr ar gontractau dim oriau, a chreu Asiantaeth Gwaith Teg ar gyfer gorfodi. Mae’r bil hefyd yn mynd i’r afael â materion fel gweithio hyblyg, tâl salwch statudol, absenoldeb teuluol, ac amddiffyniadau yn erbyn aflonyddu. Yn y sesiwn hon, bydd Fflur Jones yn canolbwyntio ar beth mae angen i bob elusen ei wybod am y Bil Hawliau Cyflogaeth, a sut dylech baratoi ar ei gyfer.

Atal problemau iechyd meddwl – Pŵer cymunedau

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G2

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Mae’r atebion i’r argyfwng iechyd meddwl cynyddol y tu allan i barth ‘iechyd’. Nid ein genynnau sy’n pennu ein Hiechyd Meddwl ond yr amgylchiadau a’r amodau rydyn ni’n cael ein geni, yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddyn nhw. Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio pa ffactorau sy’n hybu iechyd meddwl da, a sut i ymgorffori ataliaeth mewn cymunedau.

Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas a thîm Diogelu CGGC: Cefnogi cyn-droseddwyr

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G11

Diogelu
Mae’r sesiwn hon yn arddangos gwaith ar y cyd rhwng tîm diogelu CGGC a’r elusen Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas Cymru, sy’n cynnig cymorth ac arweiniad cyffredinol a phwrpasol i bobl ag euogfarnau. Ei ddiben yw helpu mudiadau i gefnogi pobl ag euogfarnau yn well tuag at wirfoddoli a chyflogaeth, a gall mynychwyr y sesiwn ddisgwyl cael cipolwg ar fideo newydd, dogfen ganllaw ddiwygiedig, yn ogystal â chyfle i ofyn cwestiynau i banel Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas.

Rhwydwaith y Gymraeg yn y Trydydd Sector

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G4

Cymraeg
Bydd Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal Rhwydwaith y Gymraeg yn y Trydydd Sector yn gofod3 eleni. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi’r cyfle i chi glywed gan siaradwyr arnbennig, i rwydweithio ac i ddysgu wrth ein gilydd wrth drafod heriau a llwyddiannau.

Gwirfoddoli fel ffordd o fyw i bawb?

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G2

Gwirfoddoli
Pa mor gynhwysol yw ein harferion gwirfoddoli, a ble allwn ni wneud yn well? Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio arferion da o ran gwirfoddoli cynhwysol, gan edrych ar faes ansawdd cynhwysiant Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV). Bydd awgrymiadau da yn cael eu rhannu – er enghraifft dulliau cyflym a rhai mwy hirdymor – i sicrhau bod gwirfoddoli’n hygyrch i bawb. Ymunwch â’r sesiwn i fyfyrio, rhannu, a gweithredu er mwyn gwneud gwirfoddoli yn wirioneddol gynhwysol.
Gofod3
^
cyWelsh