Mae hon yn sesiwn a gyflwynir gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC. Bydd yr awdur, Richard Newton, yn crynhoi ei adroddiad Comisiwn Bevan: ‘Gwerth a gwerthoedd y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan drafodaeth banel ar ei brif ganfyddiadau. Bydd hyn yn cynnwys rôl hanfodol y sector gwirfoddol mewn gwella, ehangu ac ategu’r ddarpariaeth statudol o iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig ei werthoedd a’i gryfderau, gan gynnwys budd cyhoeddus a gwerth cymdeithasol.
https://wcva.cymru/cy/projects/prosiect-iechyd-a-gofal-cggc/
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.