Gofod3
Gofod3

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu am gyd-gynhyrchu: Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

CGGC

A ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr? Dewch i’r sesiwn ddiddorol hon i ddysgu ffyrdd newydd o gyd-gynhyrchu a gwella eich arferion wrth gefnogi gwirfoddolwyr, yn enwedig os nad oes gennych chi lawer o aelodau staff. Mae’r sesiwn hon yn dangos effaith Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG), sy’n hybu arferion gorau ar draws y sector gwirfoddol, gan leihau dyblygu.

Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed gan dri mudiad sydd wedi derbyn un o Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, gan gynnwys Foothold a fydd yn siarad am eu taith gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc. Mae hwn yn gyfle i ymwreiddio arferion gorau yn eich mudiad, gan arbed amser gwerthfawr i chi.

https://wcva.cymru/cy/cyllid/cgg/

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
CGGC
Arddangoswr
Dyddiad
Mer 5 Meh 2024, 10:00am
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh