Gofod3
Gofod3


Ni yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith gyda’r sector gwirfoddol yn cael ei gynnal drwy system Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC). Yn blatfform unigryw i Gymru, mae’n gerbyd hanfodol ar gyfer cydweithrediad a phartneriaeth barhaus â’r sector gwirfoddol ac yn ennyn sgyrsiau, cyd-ddealltwriaeth, a gweithredu ar y cyd er mwyn cefnogi llesiant cymunedau yng Nghymru.

www.llyw.cymru

Digwyddiadau gan y mudiad hwn

Deall ac ail-lunio safonau cyllido Llywodraeth Cymru

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Cyllido
Polisi
Sesiwn gan Lywodraeth Cymru yw hon a fydd yn eich arwain drwy’r ‘Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector’ (drafft) newydd sy’n bwriadu cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn. Ymunwch â Phil Fiander, Cadeirydd Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, ynghyd ag aelodau eraill o’r pwyllgor a swyddogion Llywodraeth Cymru, i ddysgu mwy am y safonau cyllido newydd hyn a rhoi eich barn arnynt. Os ydych chi eisiau estyn help llaw i ail-lunio’r dirwedd gyllido yng Nghymru neu ddeall arferion gorau yn y maes cyllido’n well, dewch i’r sesiwn.

Dewch i fod yn rhan o ddatblygu dull newydd o ymdrin â gwirfoddoli yng Nghymru

Mer 5 Meh 2024, 4:00pm

Polisi
Gwirfoddoli
Mae dull newydd o ymdrin â gwirfoddoli yng Nghymru yn cael ei ddatblygu gan randdeiliaid gwirfoddoli allweddol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru ac CGGC. Ei nod yw diweddaru ac ehangu’r polisi presennol ar wirfoddoli yn unol â’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf, a’r arferion da sydd wedi’u canfod mewn gwledydd eraill. Bydd y dull newydd yn cael ei gyd-gynllunio gan randdeiliaid gwirfoddoli o bob sector. Os oes gennych ddiddordeb mewn Gwirfoddoli, bydd y sesiwn hon yn gyfle i fwydo i mewn i’r gwaith pwysig hwn ar yr adeg dyngedfennol. https://wcva.cymru/cy/projects/dull-newydd-o-wirfoddoli-yng-nghymru/
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh