Gofod3
Gofod3

Archive for Shows

Cyfleoedd ariannu a chyngor doeth ar gyfer paratoi ceisiadau

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G1

Cyllido
Ymunwch â ni mewn sesiwn lawn o wybodaeth lle byddwn yn archwilio pa gyfleoedd ariannu sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar gyfer eich cymuned. Bydd y sesiwn hon yn cynnig dosbarth meistr, gyda chyngor gwerthfawr, os neu pan fyddwch yn gwneud cais i’w rhaglen flaenllaw Pawb a’i Le. Byddwch yn dysgu am flaenoriaethau presennol y rhaglen, gan gynnwys y gofyniad newydd i ymgeiswyr egluro sut y byddan nhw’n rheoli eu heffaith amgylcheddol.

AI i arweinwyr: heriau a chyfleoedd

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G3

AI
Digidol
Ymunwch â ProMo Cymru wrth i ni edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd i ymwreiddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar draws eich mudiad. Byddwn yn ystyried strategaethau ar gyfer cefnogi eich staff, yn llywio trwy ystyriaethau moesegol yn hyderus, gan lunio polisïau defnyddio priodol, ac yn cyfathrebu ein gweledigaeth ar gyfer mabwysiadu AI mewn modd cyfrifol. Waeth a ydych newydd ddechrau edrych ar AI, neu’n datblygu strategaeth, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r mewnwelediadau ymarferol i chi arwain eich mudiad i mewn i’r dyfodol gyda Deallusrwydd Artiffisial.

Gwneud lle i siarad am iechyd emosiynol

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G2

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Sgwrs strwythuredig gan yr elusen Mentro i Freuddwydio fydd hon, dan arweiniad Barbara Chidgey, sylfaenydd a Chadeirydd yr elusen Daring to Dream. Mae Daring to Dream yn cefnogi iechyd emosiynol (nid iechyd meddwl) yr 1.2 miliwn o oedolion yng Nghymru sy’n byw gyda salwch. Mae ymchwil yn cadarnhau bod siarad am ein teimladau yn cynorthwyo gwellhad cyflymach o gyflyrau acíwt, yn cefnogi byw yn well gyda salwch cronig, ac yn lleihau’r risg o ddatblygu salwch meddwl ar ben y salwch corfforol hefyd. Yn ôl Barbara Chidgey (sylfaenydd Mentro i Freuddwydio) mae canolbwyntio ar iechyd emosiynol yn newid byd i’r rheini ohonon ni sy’n byw gyda salwch, ein teuluoedd a’n gofalwyr ac i GIG Cymru.

Pweru cymunedau: Sicrhau’r effaith fwyaf bosibl o gyllid budd cymunedol ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G4

Cyllido
Mae twf ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn creu cronfeydd budd cymunedol, gan gynnig buddsoddiad a grymuso lleol. Mae’r panel hwn, sy’n cael ei arwain gan Gymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy (CCGC) ac RWE (cynhyrchydd ynni mwyaf Cymru), yn archwilio tirweddau amrywiol y cronfeydd hyn. Bydd y trafodaethau’n cynnwys gwneud penderfyniadau ar lawr gwlad, modelau rheoli, hygyrchedd, mesur effaith, ac alinio ag anghenion cymunedol. Bydd rhanddeiliaid, gan gynnwys rheolwyr cronfeydd a derbynwyr, yn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau, gyda’r nod o wella effeithiolrwydd y cronfeydd, cynyddu ymwybyddiaeth, a meithrin arferion cydweithio.

Cymunedau Cymraeg: sut i ymgysylltu a chyrraedd gwirfoddolwyr newydd

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G11

Cymraeg
Gwirfoddoli
Mae’r rhwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru yn cyflwyno mewnwelediad i gymunedau o siaradwyr Cymraeg. Byddwn yn cynorthwyo cyrff sydd ddim yn gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg i gynyddu eu hymwneud gyda’r Gymraeg mewn ffordd ystyrlon. Cewch glywed am grwpiau cymunedol Cymraeg a dysgu am sut i’w cyrraedd.

Pobl, Planed, Ffyniant: Adeiladu gweledigaeth gyffredin er mwyn creu economi deg a chynhwysol i Gymru

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G19

Amgylcheddol
Polisi a gwleidyddiaeth
Sut olwg fyddai ar bontio teg pe bai’r bobl a’r blaned yn rhan wirioneddol greiddiol ohoni? Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall economeg ffeministaidd, cyfiawnder hinsawdd, ac egwyddorion economi llesiant lywio taith Cymru tuag at economi werdd ofalgar. Gan ddefnyddio ymchwil newydd ar Economi Llesiant i Gymru a gweledigaeth ar gyfer Bargen Werdd Newydd yn seiliedig ar egwyddorion ffeministaidd, bydd y panel yn ail-ddychmygu economi sydd nid yn unig yn diogelu’r amgylchedd ond yn blaenoriaethu llesiant y rhai mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio fwyaf arnyn nhw – gan adael neb ar ôl.
Gofod3
^
cyWelsh