Mae hon yn sesiwn sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds.
Rydyn ni i gyd eisiau cymdeithas ac economi sy’n gweithio i bawb. Mae gan y sector gwirfoddol a chymdeithas sifil, yn fwy cyffredinol, ran allweddol i’w chwarae i wireddu hyn. Ymunwch â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds sy’n rhannu gweledigaeth o greu cymunedau cydlynol, teg, a ffyniannus, er mwyn datblygu’r sgwrs ynghylch rôl mudiadau cymunedol wrth sicrhau llesiant i bawb.
Bydd y drafodaeth bord gron hon yn archwilio cwestiynau hanfodol fel:
Sut gallwn ni gynyddu ymgysylltiad dinasyddion a’u hymddiriedaeth yn y broses o wneud penderfyniadau yn ystod cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol? Sut mae cydlyniant cymdeithasol yn cyd-fynd â hyn?
Sut gallwn ni sicrhau bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau wir yn gwrando ar leisiau a phrofiadau pobl sydd wedi’u hymyleiddio neu sydd mewn amgylchiadau anodd ac yn eu gwerthfawrogi?
Beth yw rôl cydweithio traws-sectorol wrth greu cyfleoedd i drafod?
Siaradwyr:
Rhian Cahill – Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)
Cherrie Bija – Faith in Families
Emily Reddy – Cyngor Wrecsam
Chris Johnes – Yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
Sarah Mackintosh – Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
Anirban Mukhopadhyay – Kiran Cymru
Cymedrolwyd gan:
Sabiha Azad – Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyn-fyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol