Gofod3
Gofod3

Croeso i raglen digwyddiadau gofod3 ar gyfer 2025.

Fel yn y blynyddoedd cynt, mae gofod3 am ddim i fynychu, ond mae digwyddiadau unigol yn llenwi'n gyflym felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cofrestru!

Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn cofrestru ar gyfer tocyn mynediad cyffredinol gofod3 (am ddim), bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i'r lleoliad ar y diwrnod ac yn sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth berthnasol ymlaen llaw.

Cofrestrwch ar gyfer mynediad cyffredinol

Rydyn ni’n defnyddio Luma i reoli archebion sesiynau. Mae cofrestru gyda Luma yn caniatáu i chi weld a rheoli'r sesiynau yr ydych chi wedi archebu lle arnynt.

View by...

AI

Gofalwyr

Datblygu cymunedol

Cymraeg

Digidol

Cyfraith cyflogaeth

Ynni

Amgylcheddol

Cyllido

Codi arian

Llywodraethu

Iechyd a gofal cymdeithasol

Tai

Arweinyddiaeth

Iechyd meddwl

Polisi a gwleidyddiaeth

Ymchwil

Rheoli risg

Diogelu

Gwirfoddoli

Lles

Dangos Popeth

Cymhorthfa llywodraethu

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G13

Llywodraethu

Bydd Rheolwr Llywodraethu CGGC ar gael i drafod unrhyw ymholiadau llywodraethu a allai fod gennych mewn cymhorthfa breifat 20 munud.
Archebwch eich slot amser ymlaen llaw a rhowch drosolwg byr i ni o’r pynciau yr hoffech eu trafod. Bydd hyn yn caniatáu cydweithio â thimau eraill CGGC ac arwain at gyngor mwy effeithiol.

Risgiau cyfredol yn y sector elusennol: Diweddariad

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G8

Llywodraethu
Rheoli risg

Bydd Bevan Buckland yn rhoi diweddariad ar risgiau cyfredol yn y sector elusennol, gan gynnig strategaethau i helpu i reoli risg yn effeithiol, a thrafod hanfodion cofrestr risg.
Bydd y cyflwyniad diddorol hwn yn cloi gyda sesiwn holi-ac-ateb ryngweithiol lle gall mynychwyr ofyn am gyngor ynghylch heriau penodol maen nhw’n eu hwynebu yn eu helusen.

Pa rôl allai/ddylai prifysgolion, fel y Brifysgol Agored yng Nghymru, ei chwarae wrth gefnogi’r sector gwirfoddol yng Nghymru?

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G1

Gwirfoddoli

Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cefnogi gwirfoddolwyr drwy eu rhaglen hyfforddi ‘Elwa drwy Wirfoddoli’, ond beth arall allen nhw/ddylen nhw fod yn ei wneud yn y sector? Maen nhw’n awyddus i glywed eich barn.
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cynnwys y canlynol:

Hyfforddiant eiriolaeth Hyrwyddwyr OpenLearn ar gyfer y sector gwirfoddol
Rhaglen Elwa drwy Wirfoddoli, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn
Partneriaethau eraill yn y sector a sut mae’r Brifysgol Agored yn cefnogi prosesau DPP staff
Archwilio OpenLearn, sef gwefan y Brifysgol ar gyfer dychwelyd i ddysgu, sy’n cynnwys 1,000 o gyrsiau am ddim a 10,000 o raglenni rhyngweithiol, papurau, gemau ac adnoddau dychwelyd i ddysgu eraill, sydd i gyd am ddim.

Gwobr Dug Caeredin: Effaith a chyfle

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G7

Gwirfoddoli

Mae hon yn sesiwn sy’n cynnig cyfle i fudiadau ieuenctid y sector gwirfoddol ddysgu mwy am Wobr Dug Caeredin.
Bydd mynychwyr yn gadael y sesiwn gyda gwell dealltwriaeth o’r canlynol:

yr effaith gadarnhaol y gall y Wobr ei chael ar bobl ifanc sy’n cymryd rhan
sut caiff y rhaglen ei chyflwyno
sut i ddod yn bartner cyflawni Gwobr Dug Caeredin.

Naid ddigidol Cymru – Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial fel uwch-bŵer i hybu gallu’r trydydd sector

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G6

AI
Digidol

Mae elusennau Cymru yn wynebu heriau mawr, fel gormod o waith papur a diffyg adnoddau. Gall Deallusrwydd Artiffisial helpu drwy wneud tasgau diflas yn gyflym a rhyddhau amser ar gyfer gwaith arall.
Yn y sesiwn hon, byddwch yn gweld Deallusrwydd Artiffisial ar waith ac yn dysgu sut i’w ddefnyddio ar gyfer eich mudiad.
Ar ôl y sesiwn, bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn canllaw digidol er mwyn ail-ymgysylltu â’u dysgu.
Dewch i ddysgu sut gall Deallusrwydd Artiffisial roi hwb i’ch cynhyrchiant a’ch helpu i wasanaethu eich cymuned yn well!

Mesur tymheredd y sector: Cyflwyno baromedr Sector Gwirfoddol Cymru

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G5

Polisi a gwleidyddiaeth
Ymchwil

Beth sy’n mynd ymlaen mewn gwirionedd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru? Helpwch ni i ddatgelu’r gwir.
Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith o lunio Baromedr Sector Gwirfoddol Cymru – cydweithrediad newydd rhwng CGGC, Llywodraeth Cymru ac Arsyllfa Data a Mewnwelediadau Sector Gwirfoddol, Cymunedol a Menter Gymdeithasol (VCSE) Prifysgol Nottingham Trent University.
Nod y fenter hon yw llenwi bwlch pwysig: cyflwyno tystiolaeth amserol a dibynadwy ynghylch y sector gwirfoddol yng Nghymru er mwyn cefnogi penderfyniadau gwell, cefnogaeth gryfach a chyllid mwy effeithiol.
Y sesiwn hon yw eich cyfle i:

Rannu’r math o fewnwelediad a fyddai’n fwyaf defnyddiol yn eich gwaith
Helpu i nodi’r cwestiynau allweddol y dylem fod yn eu gofyn
Cyfrannu at gyd-gynhyrchu adnodd sy’n adlewyrchu cryfderau ac anghenion go iawn y sector

Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn adeiladu rhywbeth ystyrlon – adnodd sy’n ein helpu i ddeall lle rydym ni, lle rydym yn anelu amdano, a sut gallwn gefnogi dyfodol y sector.

Cyflawni’r Cynllun Seibiant Byr cenedlaethol yn y sector gwirfoddol: harneisio’r effaith a’r dysgu

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G19

Gofalwyr
Iechyd a gofal cymdeithasol

Bydd y sesiwn hon yn arddangos effaith y Cynllun Seibiant Byr hyd yma drwy rannu profiadau gofalwyr di-dâl sydd wedi manteisio ar y cynllun.
Bydd cyfle i glywed gan banel o fudiadau yn y sector gwirfoddol sy’n darparu seibiannau byr o dan Grant Amser yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu gan yr elusennau sy’n darparu seibiannau i ofalwyr wrth i ni edrych ar ddyfodol seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Deall y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G11

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl

Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno gwaith y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol hyd yma, ac yn gwahodd ymgysylltiad gan fudiadau eraill. Gweithdy fydd y sesiwn hon sy’n nodi ei themâu allweddol ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr wneud awgrymiadau a chysylltu â’r rhaglen waith hon.

Mae dyfodol trafnidiaeth Cymru yn perthyn i ni gyd – gosod y gymuned wrth wraidd datblygu trafnidiaeth

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G2

Polisi a gwleidyddiaeth

Mae trafnidiaeth yn sail i’n bywydau.
Os caiff pethau eu gwneud yn iawn, mae’n agor cyfleoedd addysg a chyflogaeth, gan ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ein cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a grwpiau cymunedol, mynd i siopa neu fynd i apwyntiadau ysbyty.
Gyda chymaint o bobl a rhannau o Gymru wedi’u heithrio o’r rhwydwaith trafnidiaeth prif ffrwd ar hyn o bryd, bydd y sesiwn hon yn ystyried sut mae’r Bil Bysiau newydd yn cynnig cyfle i feddwl y tu hwnt i fersiwn unfath o’r hyn sydd ganddon ni eisoes i ddylunio system drafnidiaeth sy’n gweithio i bob un ohonon ni.

Ffynnu wrth godi arian: Meithrin gwydnwch a llesiant

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G3

Codi arian
Lles

Ymunwch â Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru mewn sesiwn rymuso sydd wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer codwyr arian a fydd yn archwilio strategaethau hanfodol i wella gwydnwch a llesiant ym maes heriol codi arian.
Bydd y sesiwn hon yn rhannu gwybodaeth ac offer ymarferol ar gyfer:

osgoi chwythu’ch plwc
buddsoddi yn eich dysgu a’ch datblygiad proffesiynol
manteisio ar y cymorth sydd ar gael gan y gymuned codi arian ehangach.

Cynnwys cymunedau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: gofod3 theatre

Datblygu cymunedol
Polisi a gwleidyddiaeth

Mae hon yn sesiwn sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds.
Rydyn ni i gyd eisiau cymdeithas ac economi sy’n gweithio i bawb. Mae gan y sector gwirfoddol a chymdeithas sifil, yn fwy cyffredinol, ran allweddol i’w chwarae i wireddu hyn. Ymunwch â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds sy’n rhannu gweledigaeth o greu cymunedau cydlynol, teg, a ffyniannus, er mwyn datblygu’r sgwrs ynghylch rôl mudiadau cymunedol wrth sicrhau llesiant i bawb.
Bydd y drafodaeth bord gron hon yn archwilio cwestiynau hanfodol fel:

Sut gallwn ni gynyddu ymgysylltiad dinasyddion a’u hymddiriedaeth yn y broses o wneud penderfyniadau yn ystod cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol? Sut mae cydlyniant cymdeithasol yn cyd-fynd â hyn?
Sut gallwn ni sicrhau bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau wir yn gwrando ar leisiau a phrofiadau pobl sydd wedi’u hymyleiddio neu sydd mewn amgylchiadau anodd ac yn eu gwerthfawrogi?
Beth yw rôl cydweithio traws-sectorol wrth greu cyfleoedd i drafod?

Arweiniwch y ffordd gyda deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol yn y Gymraeg

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G9

AI
Digidol

Ymunwch ag un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC, Pugh Computers, am sesiwn ddiddorol llawn arloesedd AI a diweddariadau cyffrous.

Rhyddhewch bŵer Microsoft Copilot AI AM DDIM i symleiddio ffrydiau gwaith a gwella creadigrwydd.
Dysgwch sut mae Copilot a Microsoft Teams yn cyfuno’n ddi-dor i ddarparu cyfieithiadau Cymraeg o fewn eiliadau.
Grymuswch eich tîm gyda datrysiadau gweithio hybrid wedi’u teilwra, gan gynnwys technoleg ystafell gyfarfod a phecynnau gweithio gartref wedi’u hardystio gan Teams
Arferion gorau wrth ymdrin â diogelu data a llywodraethu gyda rheoliadau diogelwch a dogfennau gorau M365.

Arwain diwylliant dwyieithog cadarnhaol

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Ystafell: G12

Cymraeg

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y gallwch ddatblygu diwylliant cadarnhaol o ddwyieithrwydd Cymraeg- Saesneg yn eich mudiad. Byddwch yn clywed gan arweinwyr o fewn CGGC a’u profiad o gwrs Llywodraeth Cymru Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog a sut mae wedi helpu i drawsnewid y ffordd y defnyddir ac ystyrir y Gymraeg o fewn y mudiad. Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn ddwyieithog ac nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg i ymuno.

Dysgwch fwy am Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Mer 2 Gorff 2025, 10:30am

Ystafell: G12

Cymraeg

Ydych chi’n ystyried dysgu Cymraeg? Ymunwch â Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i glywed mwy am y cyrsiau sydd gan y ganolfan i’w cynnig, i chi’n bersonol ac i’ch mudiad.

Cymhorthfa llywodraethu

Mer 2 Gorff 2025, 10:45am

Ystafell: G13

Llywodraethu

Bydd Rheolwr Llywodraethu CGGC ar gael i drafod unrhyw ymholiadau llywodraethu a allai fod gennych mewn cymhorthfa breifat 20 munud.
Archebwch eich slot amser ymlaen llaw a rhowch drosolwg byr i ni o’r pynciau yr hoffech eu trafod. Bydd hyn yn caniatáu cydweithio â thimau eraill CGGC ac arwain at gyngor mwy effeithiol.

Astudiaeth achos: Ambiwlans Awyr Cymru- Gwreiddio’r Gymraeg yng nghalon mudiad

Mer 2 Gorff 2025, 11:00am

Ystafell: G12

Cymraeg

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cymryd camau arwyddocaol i gryfhau eu darpariaeth Gymraeg, dan arweiniad eu strategaeth bum mlynedd. Yn y sesiwn hon, byddant yn rhannu eu taith, o lansio Polisi a Chynllun Iaith Gymraeg newydd i ymgysylltu â’u staff i adeiladu cefnogaeth i’r iaith. Bydd y sesiwn yn archwilio sut y gwnaethant groesawu hunaniaeth Gymreig mewn ffordd gynhwysol, ystyrlon, yr heriau a wynebwyd ganddynt, a sut y gwnaethant eu goresgyn. Mae hon yn stori am wreiddio’r Gymraeg yng nghalon eu mudiad, gyda llwybr clir o’u blaenau.

Mae cydweithio yn allweddol! Yn y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth rydym am weithio gyda chi i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G9

Iechyd a gofal cymdeithasol

Nod y sesiwn hon yw codi ymwybyddiaeth o’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth a’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: cod ymarfer. Byddwn yn edrych ar sut gallai’r ddeddfwriaeth hon helpu i gefnogi cydweithrediad gwell a chomisiynu mwy perthnasol, cynhwysol a thryloyw rhwng awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chwmnïau yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol. Nod y cod yw creu arferion comisiynu mwy cyson, gonest a chydweithredol ar hyd a lled Cymru.

Gwirfoddoli ar sail sgiliau: Pawb ar eu hennill

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G6

Gwirfoddoli

Dros ddeng mlynedd o gyflwyno rhaglenni gwirfoddoli yn seiliedig ar sgiliau, mae Sefydliad Banc Lloyds wedi gweld y gwerth maen nhw’n ei ychwanegu ar gyfer gwirfoddolwyr, elusennau, busnes a mwy.
Yn y sesiwn hon, bydd cydweithwyr Sefydliad Banc Lloyds a phartneriaid elusennol yn rhannu eu profiadau a’u dysgu gyda chi.
Dewch draw i glywed am brofiadau o’r gwahanol ffyrdd y gall gwirfoddoli yn seiliedig ar sgiliau fod o fudd i elusennau Cymru a sut y gallai partneriaethau traws-sector fod o fudd i elusennau a gwirfoddolwyr fel ei gilydd.

Arweinwyr Cymdeithasol Cymru – Blwyddyn yn ddiweddarach – Cydweithio i greu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar gyfer sector gwirfoddol Cymru

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G5

Arweinyddiaeth

Bydd y sesiwn hon yn rhannu sut mae’r rhaglenni arweinyddiaeth wedi cefnogi arweinwyr cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu eu sgiliau arwain a darparu amgylchedd i feithrin llesiant a datblygu rhwydweithiau cyfoedion.
Dewch draw i ddysgu am eu gwaith hyd yma, am ddyfodol datblygu arweinyddiaeth ar gyfer sector gwirfoddol Cymru a chynlluniau ar gyfer rhaglen datblygu arweinyddiaeth sydd wedi’i hariannu’n llawn.
Partneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership a CGGC yw Arweinwyr Cymdeithasol Cymru sydd wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Os nad oedd modd i chi gymryd rhan yn y gweithdy y llynedd, mae hwn yn gyfle i ddweud eich dweud am ddyfodol rhaglenni arweinyddiaeth sydd bellach yn cael eu datblygu ar gyfer sector gwirfoddol Cymru.

Lansio’r weledigaeth gwirfoddoli newydd

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: gofod3 theatre

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn elfen allweddol o gydlyniant cymunedol, a llesiant unigol a chyfunol. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol i gael 30% o bobl yn gwirfoddoli yn 2022-23, ond sut allwn ni gynnal ac adeiladu ar hyn? Sut allwn ni oresgyn rhai o’r heriau o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr y mae’r sector wedi’u profi ers 2023?

Cyfleoedd ariannu a chyngor doeth ar gyfer paratoi ceisiadau

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G1

Cyllido

Ymunwch â ni mewn sesiwn lawn o wybodaeth lle byddwn yn archwilio pa gyfleoedd ariannu sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar gyfer eich cymuned.
Bydd y sesiwn hon yn cynnig dosbarth meistr, gyda chyngor gwerthfawr, os neu pan fyddwch yn gwneud cais i’w rhaglen flaenllaw Pawb a’i Le.
Byddwch yn dysgu am flaenoriaethau presennol y rhaglen, gan gynnwys y gofyniad newydd i ymgeiswyr egluro sut y byddan nhw’n rheoli eu heffaith amgylcheddol.

AI i arweinwyr: heriau a chyfleoedd

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G3

AI
Digidol

Ymunwch â ProMo Cymru wrth i ni edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd i ymwreiddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar draws eich mudiad.
Byddwn yn ystyried strategaethau ar gyfer cefnogi eich staff, yn llywio trwy ystyriaethau moesegol yn hyderus, gan lunio polisïau defnyddio priodol, ac yn cyfathrebu ein gweledigaeth ar gyfer mabwysiadu AI mewn modd cyfrifol.
Waeth a ydych newydd ddechrau edrych ar AI, neu’n datblygu strategaeth, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r mewnwelediadau ymarferol i chi arwain eich mudiad i mewn i’r dyfodol gyda Deallusrwydd Artiffisial.

Gwneud lle i siarad am iechyd emosiynol

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G2

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl

Sgwrs strwythuredig gan yr elusen Mentro i Freuddwydio fydd hon, dan arweiniad Barbara Chidgey, sylfaenydd a Chadeirydd yr elusen Daring to Dream. Mae Daring to Dream yn cefnogi iechyd emosiynol (nid iechyd meddwl) yr 1.2 miliwn o oedolion yng Nghymru sy’n byw gyda salwch. Mae ymchwil yn cadarnhau bod siarad am ein teimladau yn cynorthwyo gwellhad cyflymach o gyflyrau acíwt, yn cefnogi byw yn well gyda salwch cronig, ac yn lleihau’r risg o ddatblygu salwch meddwl ar ben y salwch corfforol hefyd.
Yn ôl Barbara Chidgey (sylfaenydd Mentro i Freuddwydio) mae canolbwyntio ar iechyd emosiynol yn newid byd i’r rheini ohonon ni sy’n byw gyda salwch, ein teuluoedd a’n gofalwyr ac i GIG Cymru.

Pweru cymunedau: Sicrhau’r effaith fwyaf bosibl o gyllid budd cymunedol ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G4

Cyllido

Mae twf ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn creu cronfeydd budd cymunedol, gan gynnig buddsoddiad a grymuso lleol. Mae’r panel hwn, sy’n cael ei arwain gan Gymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy (CCGC) ac RWE (cynhyrchydd ynni mwyaf Cymru), yn archwilio tirweddau amrywiol y cronfeydd hyn.
Bydd y trafodaethau’n cynnwys gwneud penderfyniadau ar lawr gwlad, modelau rheoli, hygyrchedd, mesur effaith, ac alinio ag anghenion cymunedol. Bydd rhanddeiliaid, gan gynnwys rheolwyr cronfeydd a derbynwyr, yn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau, gyda’r nod o wella effeithiolrwydd y cronfeydd, cynyddu ymwybyddiaeth, a meithrin arferion cydweithio.

Cymunedau Cymraeg: sut i ymgysylltu a chyrraedd gwirfoddolwyr newydd

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G11

Cymraeg
Gwirfoddoli

Mae’r rhwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru yn cyflwyno mewnwelediad i gymunedau o siaradwyr Cymraeg. Byddwn yn cynorthwyo cyrff sydd ddim yn gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg i gynyddu eu hymwneud gyda’r Gymraeg mewn ffordd ystyrlon. Cewch glywed am grwpiau cymunedol Cymraeg a dysgu am sut i’w cyrraedd.

Pobl, Planed, Ffyniant: Adeiladu gweledigaeth gyffredin er mwyn creu economi deg a chynhwysol i Gymru

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

Ystafell: G19

Amgylcheddol
Polisi a gwleidyddiaeth

Sut olwg fyddai ar bontio teg pe bai’r bobl a’r blaned yn rhan wirioneddol greiddiol ohoni? Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall economeg ffeministaidd, cyfiawnder hinsawdd, ac egwyddorion economi llesiant lywio taith Cymru tuag at economi werdd ofalgar.
Gan ddefnyddio ymchwil newydd ar Economi Llesiant i Gymru a gweledigaeth ar gyfer Bargen Werdd Newydd yn seiliedig ar egwyddorion ffeministaidd, bydd y panel yn ail-ddychmygu economi sydd nid yn unig yn diogelu’r amgylchedd ond yn blaenoriaethu llesiant y rhai mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio fwyaf arnyn nhw – gan adael neb ar ôl.

Cymhorthfa llywodraethu

Mer 2 Gorff 2025, 11:45am

Ystafell: G13

Llywodraethu

Bydd Rheolwr Llywodraethu CGGC ar gael i drafod unrhyw ymholiadau llywodraethu a allai fod gennych mewn cymhorthfa breifat 20 munud.
Archebwch eich slot amser ymlaen llaw a rhowch drosolwg byr i ni o’r pynciau yr hoffech eu trafod. Bydd hyn yn caniatáu cydweithio â thimau eraill CGGC ac arwain at gyngor mwy effeithiol.

Cinio a chlonc – cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg

Mer 2 Gorff 2025, 12:40pm

Ystafell: G4

Cymraeg

Hoffech chi gael cyfle i ymarfer eich Cymraeg gydag eraill sydd am fagu hyder i ddefnyddio’r iaith? Dewch draw am sgwrs yn Gymraeg gyda chyfoedion dros ginio.
Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at ddysgwyr Cymraeg a’r rhai a hoffai gynyddu eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

Cymhorthfa llywodraethu

Mer 2 Gorff 2025, 1:15pm

Ystafell: G13

Llywodraethu

Bydd Rheolwr Llywodraethu CGGC ar gael i drafod unrhyw ymholiadau llywodraethu a allai fod gennych mewn cymhorthfa breifat 20 munud.
Archebwch eich slot amser ymlaen llaw a rhowch drosolwg byr i ni o’r pynciau yr hoffech eu trafod. Bydd hyn yn caniatáu cydweithio â thimau eraill CGGC ac arwain at gyngor mwy effeithiol.

 Ein cartrefi, ein llais: Grymuso pobl, creu cartrefi

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G19

Tai
Polisi a gwleidyddiaeth

Fel yr unig Hwb yng Nghymru ar gyfer Tai dan Arweiniad y Gymuned, mae tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi Cwmpas yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy dan arweiniad y gymuned ledled Cymru y mae pobl leol yn berchen arnyn nhw ac/neu sy’n cael eu rheoli er budd y gymuned ehangach. Yn syml, mae hyn yn golygu cartrefi fforddiadwy a grëwyd gan fudiadau nid er elw ar lawr gwlad sy’n sensitif i’r cyd-destun ac yn ymwybodol o’u heffaith – yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Dewch draw i ddysgu mwy!

Cymunedau wrth y llyw: Buddsoddi’n Lleol, stori rhaglen gymunedol fwyaf arloesol Cymru

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G5

Datblygu cymunedol
Polisi a gwleidyddiaeth

Mae grwpiau cymunedol yn chwarae rhan allweddol yng ngwead llawer o lefydd yng Nghymru, gan gefnogi a chynnal seilwaith cymdeithasol hollbwysig a darparu cyfleoedd i bobl leol gyfarfod, mwynhau a chael mynediad at gymorth brys os oes angen. Mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn cynnig cyllid a chefnogaeth i gymunedau, yn ogystal â chyfleoedd i rannu a dysgu, a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Rhaglen datblygu cymunedol arloesol yw Buddsoddi’n Lleol, sydd â phobl yn ganolog iddi, ac sy’n rhedeg mewn 13 ardal ledled Cymru. Mae’n darparu £1 miliwn i bob ardal, i’w fuddsoddi fel mae trigolion lleol yn ei ystyried yn addas, er mwyn cyflawni eu nodau.
Ymunwch â’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau i glywed gan Swyddogion Buddsoddi’n Lleol a chyfranogwyr rhaglen Buddsoddi’n Lleol wrth iddyn nhw rannu eu profiadau, heriau, a’r gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen Buddsoddi’n Lleol hyd yn hyn.

Arwain newid digidol: Sgwrs

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G6

AI
Digidol

Mae gan y gair “digidol” lawer o ystyron. Mae’n cwmpasu cyfrifiaduron a chaledwedd, y cyfryngau cymdeithasol, diogelwch a data, sut mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a phopeth rhyngddyn nhw.
Mae’n effeithio ar bob rhan o’n bywydau, yn esblygu’n gyflym ac yn cynnig y potensial i ddarparu gwell gwasanaethau sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau newidiol pobl.
Yn ystod y sesiwn hon, bydd ProMo Cymru yn rhannu arfer da ac yn trafod y meddylfryd a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn fudiad sy’n datblygu’n ddigidol.
Bydd y tîm hefyd yn rhannu adnoddau a chyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi, er mwyn i chi allu cofleidio’r byd digidol yn 2025.

Rôl yr Archwiliwr Annibynnol wrth atal twyll

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G7

Llywodraethu

Mae twyllwyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig, ac mae cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial i’r cymysgedd yn golygu bod craffu annibynnol ar ddogfennau llywodraethu, cofnodion a gwybodaeth ariannol wedi dod yn hollbwysig.
Mae’r sesiwn hynod ddiddorol hon yn esbonio’r hyn mae Archwilwyr Annibynnol yn ei wneud, pam y gallech fod eisiau hyfforddi fel un, a sut maen nhw’n gweithredu i ganfod twyll.

Risgiau cyfredol yn y sector elusennol: Diweddariad

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G8

Llywodraethu
Rheoli risg

Bydd Bevan Buckland yn rhoi diweddariad ar risgiau cyfredol yn y sector elusennol, gan gynnig strategaethau i helpu i reoli risg yn effeithiol, a thrafod hanfodion cofrestr risg.
Bydd y cyflwyniad diddorol hwn yn cloi gyda sesiwn holi-ac-ateb ryngweithiol lle gall mynychwyr ofyn am gyngor ynghylch heriau penodol maen nhw’n eu hwynebu yn eu helusen.

Arweiniwch y ffordd gyda deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol yn y Gymraeg

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G9

AI
Digidol

Ymunwch ag un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC, Pugh Computers, am sesiwn ddiddorol llawn arloesedd AI a diweddariadau cyffrous.

Rhyddhewch bŵer Microsoft Copilot AI AM DDIM i symleiddio ffrydiau gwaith a gwella creadigrwydd.
Dysgwch sut mae Copilot a Microsoft Teams yn cyfuno’n ddi-dor i ddarparu cyfieithiadau Cymraeg o fewn eiliadau.
Grymuswch eich tîm gyda datrysiadau gweithio hybrid wedi’u teilwra, gan gynnwys technoleg ystafell gyfarfod a phecynnau gweithio gartref wedi’u hardystio gan Teams.
Arferion gorau wrth ymdrin â diogelu data a llywodraethu gyda rheoliadau diogelwch a dogfennau gorau M365.

Senedd 2026: newidiadau, effaith a maniffestos

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G10

Polisi a gwleidyddiaeth

Beth mae diwygio’r Senedd yn ei olygu i’r sector gwirfoddol? Beth sydd ar ein rhestr ddymuniadau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru? Beth mae’r gwahanol bleidiau gwleidyddol yn addo ei gyflawni?
Bydd y sesiwn addysgiadol hon yn crynhoi’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf, a’r hyn mae CGGC wedi’i ddysgu drwy ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol wrth iddyn nhw ddrafftio eu maniffestos a sut mae hynny’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r sector gwirfoddol. Bydd cyfle i roi adborth, gofyn cwestiynau, a dechrau datblygu eich strategaeth ddylanwadu.

Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas a thîm Diogelu CGGC: Cefnogi cyn-droseddwyr

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G11

Diogelu

Mae’r sesiwn hon yn arddangos gwaith ar y cyd rhwng tîm diogelu CGGC a’r elusen Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas Cymru, sy’n cynnig cymorth ac arweiniad cyffredinol a phwrpasol i bobl ag euogfarnau.
Ei ddiben yw helpu mudiadau i gefnogi pobl ag euogfarnau yn well tuag at wirfoddoli a chyflogaeth, a gall mynychwyr y sesiwn ddisgwyl cael cipolwg ar fideo newydd, dogfen ganllaw ddiwygiedig, yn ogystal â chyfle i ofyn cwestiynau i banel Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas.

Rhwydwaith y Gymraeg yn y Trydydd Sector

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G4

Cymraeg

Bydd Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal Rhwydwaith y Gymraeg yn y Trydydd Sector yn gofod3 eleni. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi’r cyfle i chi glywed gan siaradwyr arnbennig, i rwydweithio ac i ddysgu wrth ein gilydd wrth drafod heriau a llwyddiannau.

Gwirfoddoli fel ffordd o fyw i bawb?

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G2

Gwirfoddoli

Pa mor gynhwysol yw ein harferion gwirfoddoli, a ble allwn ni wneud yn well?
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio arferion da o ran gwirfoddoli cynhwysol, gan edrych ar faes ansawdd cynhwysiant Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV).
Bydd awgrymiadau da yn cael eu rhannu – er enghraifft dulliau cyflym a rhai mwy hirdymor – i sicrhau bod gwirfoddoli’n hygyrch i bawb.
Ymunwch â’r sesiwn i fyfyrio, rhannu, a gweithredu er mwyn gwneud gwirfoddoli yn wirioneddol gynhwysol.

Adolygu Incwm Gwirfoddoli 2025: Beth yw’r cyfleoedd codi arian gorau i elusennau Cymru?

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G3

Codi arian
Ymchwil

Mae CGGC wedi comisiynu’r Ganolfan Gyllido i archwilio’r mathau a’r lefelau o wahanol ddulliau codi arian yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Yn y sesiwn addysgiadol hon, byddwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil, gan ddangos cyfansoddiad incwm gwirfoddoli yn y sector yng Nghymru ac yn amlygu pa weithgareddau codi arian sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer twf.

Chwilio’r Da – Gweithdy dysgu am sgyrsiau comisiynu

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: G1

Llywodraethu

Gan adeiladu ar drafodaeth banel gofod3 yn 2024 o’r un enw, mae’r gweithdy hwn yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o brosiect dysgu gweithredol chwe mis sy’n archwilio beth mae ‘Chwilio’r Da’ yn ei olygu mewn arferion comisiynu ledled Cymru.
Dechreuwyd y prosiect gan Fforwm Elusennau Bach Cymru, a’i ddatblygu mewn partneriaeth â Sefydliad Banc Lloyds, Cwmpas, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, elusennau bach, a mentrau cymdeithasol ledled Cymru. Gyda’i gilydd, datblygodd partneriaid y prosiect sgyrsiau comisiynu lleol a rhanbarthol drwy gydol Gwanwyn 2025.
Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys cyfraniadau gan y rhai sy’n ymwneud â’r prosiect, gan rannu gwybodaeth a chanlyniadau o’u profiadau. Bydd y mynychwyr yn cael eu gwahodd i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd ac ystyried sut gall y sector gwirfoddol adeiladu ar y gwaith hwn i eirioli dros arferion comisiynu gwell ledled Cymru.

Cydweithio dros iechyd a llesiant yn y gymuned

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

Ystafell: gofod3 theatre

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r sesiwn hon, a gynhelir ar y cyd rhwng Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), yn archwilio dull seiliedig ar le a sut y gall cydweithio traws-sectorol gyflawni ar lesiant pan fo’r sector gwirfoddol yn bartner cyfartal wrth y bwrdd.
Wrth glywed safbwyntiau traws-sectorol llawr gwlad yn Sir Benfro, bydd y drafodaeth yn mynd i’r afael â chwestiynau allweddol, gan gynnwys:

Sut y gellir meithrin gwell cydweithio (gan gynnwys gyda’r sector preifat) i wella cynaliadwyedd hirdymor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth?
Sut y gellid gwella strwythurau partneriaeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant a lleihau rhwystrau rhag cydweithio effeithiol?

Cymhorthfa llywodraethu

Mer 2 Gorff 2025, 2:00pm

Ystafell: G13

Llywodraethu

Bydd Rheolwr Llywodraethu CGGC ar gael i drafod unrhyw ymholiadau llywodraethu a allai fod gennych mewn cymhorthfa breifat 20 munud.
Archebwch eich slot amser ymlaen llaw a rhowch drosolwg byr i ni o’r pynciau yr hoffech eu trafod. Bydd hyn yn caniatáu cydweithio â thimau eraill CGGC ac arwain at gyngor mwy effeithiol.

Sut mae’r cyhoedd a gwleidyddion yn ystyried y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru?

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G19

Polisi a gwleidyddiaeth
Ymchwil

Ar ôl dadansoddi data pleidleisio hirdymor, bydd nfpResearch yn datgelu sut mae agweddau cyhoeddus a gwleidyddol tuag at elusennau wedi newid dros y degawd diwethaf.
Bydd y sesiwn yn archwilio pedwar maes allweddol sy’n hanfodol i’r sector:

Ymddiriedaeth a gwelededd – sut mae elusennau Cymru yn cymharu â’r DU, gan gynnwys eu rôl wrth wynebu heriau
Newid arferion rhoi – sut hoffai pobl Cymru i’w harian gael ei wario
Y Gymraeg a lleoliaeth – sut gall elusennau Cymru wella eu cyfathrebu â’r cyhoedd
Ymgysylltu gwleidyddol – sut gall elusennau ymgysylltu’n effeithiol ag ASau a pharatoi ar gyfer 2026.

Bydd y sesiwn hon yn darparu data gwerthfawr a gwybodaeth strategol i elusennau sy’n llywio sector gwirfoddol Cymru sy’n esblygu.

Datgloi haelioni: Cyflwyno elusennau i roi drwy’r gyflogres

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G4

Codi arian

Darganfyddwch sut y gall rhoi drwy’r gyflogres greu ffrwd incwm gynaliadwy i elusennau gan wneud rhoi yn hawdd i roddwyr.
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno elusennau i fanteision rhoi drwy’r gyflogres, sut i ymgysylltu â chyflogwyr, ac arferion gorau ar gyfer llwyddo.
Drwy wybodaeth arbenigol ac astudiaethau achos bywyd go iawn, byddwch yn dysgu am strategaethau y gellir eu gweithredu i wneud y mwyaf o roddion a chryfhau perthnasoedd â phartneriaid corfforaethol. P’un a ydych yn newydd i roi drwy’r gyflogres neu’n awyddus i wella’ch rhaglen, bydd y sesiwn hon yn rhoi arweiniad ymarferol i hybu ymgysylltiad ac effaith rhoddwyr.

Dechrau eich taith sero net: Camau ymarferol ar gyfer elusennau a mudiadau nid er elw

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G11

Ynni

Gall cychwyn ar y llwybr tuag at sero net deimlo’n llethol, ond gall pob mudiad gymryd camau ystyrlon i leihau ei ôl troed carbon.
Ymunwch ag Utility Aid i gychwyn ar eich taith gynaliadwyedd. Bydd y sesiwn hon yn rhoi arweiniad ymarferol ar effeithlonrwydd ynni, mesurau arbed costau, a strategaethau syml i ddechrau ar eich taith sero net. Dysgwch sut i gael effaith wirioneddol wrth aros yn gynaliadwy’n ariannol.
P’un a ydych newydd ddechrau neu’n awyddus i gyflymu eich cynnydd, bydd y sgwrs hon yn rhoi’r wybodaeth a’r offer i chi weithredu.

Y cyfryngau cymdeithasol a fy mhlentyn: Oes rhywbeth y dylwn ei wybod?

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G5

Diogelu

Mae’r gweithdy amserol hwn yn edrych ar berthynas pobl ifanc â’r cyfryngau cymdeithasol a’r problemau sy’n codi i bobl ifanc a rhieni.
Byddwch yn dysgu sut i helpu ein pobl ifanc a beth allwn ni ei wneud am broblemau pan fyddan nhw’n codi.

Naid ddigidol Cymru – Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial fel uwch-bŵer i hybu gallu’r trydydd sector

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G6

AI
Digidol

Mae elusennau Cymru yn wynebu heriau mawr, fel gormod o waith papur a diffyg adnoddau. Gall Deallusrwydd Artiffisial helpu drwy wneud tasgau diflas yn gyflym a rhyddhau amser ar gyfer gwaith arall.
Yn y sesiwn hon, byddwch yn gweld Deallusrwydd Artiffisial ar waith ac yn dysgu sut i’w ddefnyddio ar gyfer eich mudiad.
Ar ôl y sesiwn, bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn canllaw digidol er mwyn ail-ymgysylltu â’u dysgu.
Dewch i ddysgu sut gall Deallusrwydd Artiffisial roi hwb i’ch cynhyrchiant a’ch helpu i wasanaethu eich cymuned yn well!

Tuag at greu Rhwydwaith Cymru ar gyfer Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G7

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Cynrychiolwyr Cynghorau Gwirfoddol Sirol’ neu ‘Gynrychiolwyr Trydydd Sector’ fel arfer, yn cymryd rhan mewn Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru, ond eto amser gwirfoddol yw hwn i raddau helaeth, gyda dim ond ychydig o gymorth i’r rhai sy’n ymgymryd â’r rôl. Mae hyn yn golygu nad oes rhwydwaith sefydledig i gynrychiolwyr gysylltu a rhannu eu profiadau, eu heriau a’r arferion gorau o’u meysydd priodol.
Mae’r sesiwn hon yn gwahodd Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am sgwrs gychwynnol gyda’r bwriad o sefydlu rhwydwaith genedlaethol. Ei nod yw llunio agenda ddrafft ar gyfer cyfarfod cyntaf Cymru gyfan o Gynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn y dyfodol.

Gwobr Dug Caeredin: Effaith a chyfle

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G8

Gwirfoddoli

Mae hon yn sesiwn sy’n cynnig cyfle i fudiadau ieuenctid y sector gwirfoddol ddysgu mwy am Wobr Dug Caeredin.
Bydd mynychwyr yn gadael y sesiwn gyda gwell dealltwriaeth o’r canlynol:

yr effaith gadarnhaol y gall y Wobr ei chael ar bobl ifanc sy’n cymryd rhan
sut caiff y rhaglen ei chyflwyno
sut i ddod yn bartner cyflawni Gwobr Dug Caeredin.

Senedd 2026: newidiadau, effaith a maniffestos

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G10

Polisi a gwleidyddiaeth

Beth mae diwygio’r Senedd yn ei olygu i’r sector gwirfoddol? Beth sydd ar ein rhestr ddymuniadau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru? Beth mae’r gwahanol bleidiau gwleidyddol yn addo ei gyflawni?
Bydd y sesiwn addysgiadol hon yn crynhoi’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf, a’r hyn mae CGGC wedi’i ddysgu drwy ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol wrth iddyn nhw ddrafftio eu maniffestos a sut mae hynny’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r sector gwirfoddol. Bydd cyfle i roi adborth, gofyn cwestiynau, a dechrau datblygu eich strategaeth ddylanwadu.

Cymhorthfa llywodraethu

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G13

Llywodraethu

Bydd Rheolwr Llywodraethu CGGC ar gael i drafod unrhyw ymholiadau llywodraethu a allai fod gennych mewn cymhorthfa breifat 20 munud.
Archebwch eich slot amser ymlaen llaw a rhowch drosolwg byr i ni o’r pynciau yr hoffech eu trafod. Bydd hyn yn caniatáu cydweithio â thimau eraill CGGC ac arwain at gyngor mwy effeithiol.

Dylunio’r Dyfodol: Datblygu eich sgiliau meddwl hirdymor

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: gofod3 theatre

Gweithdy sgiliau rhyngweithiol yw hwn sy’n cael ei gynnal gan Hwb Dyfodol, menter bartneriaeth newydd i gefnogi sgiliau meddwl hirdymor yng Nghymru.
Ymunwch â thîm Hwb i ddysgu am Ddylunio’r Dyfodol, techneg y gallwch ei defnyddio yn eich mudiad a’ch cymunedau.
Bydd arweinwyr y sesiynau yn gwahodd pobl i ddychmygu eu hunain wedi’u cludo i’r flwyddyn 2050, ac ystyried y cwestiynau hyn:

Sut bydden nhw’n gweld y byd?
Beth fydden nhw am ei weld?
Pa benderfyniadau fydden nhw’n dymuno i’w rhagflaenwyr eu gwneud?

O Leoliadau Tymor Byr i Wirfoddolwyr Gydol Oes: Gwneud i’r Cyflwyniad Cychwynnol Gyfrif

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G1

Gwirfoddoli

Sut gallwn ni droi profiad gwirfoddoli untro yn ddechrau taith gydol oes?
Mae’r sesiwn ddefnyddiol hon yn archwilio sut mae pobl yn aml yn dechrau gwirfoddoli drwy brofiadau tymor byr – fel Bagloriaeth Cymru, Gwobr Dug Caeredin, gwirfoddoli gyda chymorth cyflogwr, neu ddigwyddiadau cenedlaethol fel The Big Help Out.
Manteisiwch ar y cyfle i ystyried sut gall y profiadau cynnar hyn fod yn sbardunau pwerus ar gyfer ymrwymiadau hirdymor pan fydd yr amodau cywir yn eu lle.

Y Bil Hawliau Cyflogaeth newydd: Yr hyn y mae angen i bob elusen ei wybod

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G3

Cyfraith cyflogaeth
Llywodraethu

Mae Bil Hawliau Cyflogaeth newydd llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi’n mynd drwy senedd San Steffan. Ei nod yw moderneiddio cyfraith cyflogaeth, gan gryfhau amddiffyniadau gweithwyr a hyrwyddo tegwch yn y gweithle. Mae’r newidiadau allweddol yn cynnwys gwneud hawliadau diswyddo annheg yn hawl o’r diwrnod cyntaf un, gan sicrhau triniaeth fwy teg ar gyfer gweithwyr ar gontractau dim oriau, a chreu Asiantaeth Gwaith Teg ar gyfer gorfodi. Mae’r bil hefyd yn mynd i’r afael â materion fel gweithio hyblyg, tâl salwch statudol, absenoldeb teuluol, ac amddiffyniadau yn erbyn aflonyddu. Yn y sesiwn hon, bydd Fflur Jones yn canolbwyntio ar beth mae angen i bob elusen ei wybod am y Bil Hawliau Cyflogaeth, a sut dylech baratoi ar ei gyfer.

Atal problemau iechyd meddwl – Pŵer cymunedau

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

Ystafell: G2

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl

Mae’r atebion i’r argyfwng iechyd meddwl cynyddol y tu allan i barth ‘iechyd’. Nid ein genynnau sy’n pennu ein Hiechyd Meddwl ond yr amgylchiadau a’r amodau rydyn ni’n cael ein geni, yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddyn nhw.
Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio pa ffactorau sy’n hybu iechyd meddwl da, a sut i ymgorffori ataliaeth mewn cymunedau.

Gofod3
^
cyWelsh